Weithiau y ffordd orau i drwsio'r system yw trwy cychwyn un newydd .....
Rydym yn cychwyn o'r gwaelod. Gyda ffermwyr a thyfwyr sy'n barod i adrodd eu hanesion, llawn gwirionedd a balchder. Gyda dosbarthwyr sy'n barpod i gysylltu pobl â chynnyrch mewn ffordd deg ac onest. Gyda phrynwyr sy'n credu y gall penderfyniadau gwell am y siopa bob wythnos newid y byd o ddifrif.
Wedyn mae angen inni ei wireddu. Ffordd i rymuso pawb sy'n tyfu, yn gwerthu ac yn prynu bwyd. Ffordd i adrodd yr holl hanesion, delio gyda'r logisteg. Ffordd i droi trafodion yn drawsnewid bob dydd.
Felly, dyma ddatblygu marchnad ar-lein sy'n cynnig yr un cyfle i bawb. Mae'n dryloyw, felly mae'n creu cysylltiadau. Ffynhonnell agored yw, felly mae'n eiddo i bawb. Mae'n gweithio ar lefel ranbarthol a chenedlaethol, felly mae pawb yn cychwyn eu fersiynau unigryw ledled y byd.
Mae'n gweithio ym mhobman. Mae'n newid popeth.
Ei enw yw y Open Food Network.
Mae pawb yn caru bwyd. Nawr gallwn garu ein system bwyd hefyd.